Posts Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts      All Comments Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts     Cymraeg

Thursday 30 August 2012

Ar Eich Marciau! Parod! EWCH! ― Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales





Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales
(ISBN 978-1-87118-445-7)

Bu disgwyl mawr am gyhoeddiad diweddaraf y Comisiwn Brenhinol, Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales, a gyrhaeddodd heddiw. Cyhoeddwyd y llyfr i nodi’r flwyddyn Olympaidd 2012 ac mae’n llawn lluniau gwych gan gynnwys llawer o ddelweddau o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru nad ydynt wedi cael eu cyhoeddi o’r blaen. Drwy astudio’r amrywiaeth o gyfleusterau chwaraeon o barciau cyhoeddus a phyllau nofio awyr agored i feysydd chwarae a stadia, a rôl cefn gwlad fel iard chwarae genedlaethol, mae’r llyfr hwn yn sicr o feithrin dealltwriaeth ddyfnach o leoedd chwaraeon yng Nghymru

Bydd y llyfr ar gael i bawb yn gynnar yr wythnos nesaf am bris o £14.95 yn unig gan gynnwys cludiant (y DU yn unig). Ffoniwch y Comisiwn Brenhinol ar 01970 621200 neu ewch i’n gwefan www.cbhc.gov.uk i archebu copi. Gall Cyfeillion brynu copi o’r llyfr am y pris arbennig o £13.50 yn unig gan gynnwys cludiant (y DU yn unig). Byddwch cystal â dyfynnu Cyfeillion y Comisiwn Brenhinol wrth roi eich archeb.

Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales
(ISBN 978-1-87118-445-7)

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News
 Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin

Related Posts with Thumbnails