 |
Maen Hir Carreg Coitan Arthur, Puncheston, NPRN: 304361 |
Crewyd y casgliad o beintiadau sy'n cofnodi
meini hirion Sir Benfro gan yr arlunydd J. C. Young dros gyfnod o dair blynedd rhwng 1981 a 1984, gan ddefnyddio rhestr o safleoedd a gyhoeddwyd yn Pembrokeshire Historian ym 1966. Ymwelodd â phob un o'r 53 maen a'u cofnodi'n ofalus iawn yng nghyd-destun y dirwedd o'u hamgylch – menter lafurus, yn aml yn golygu oriau o chwilio a theithio i leoliadau anghysbell. Yn ogystal â chynhyrchu'r peintiadau, creodd Mrs Young nodiadau ar gyfer pob maen, yn cofnodi unrhyw hanes a llên gwerin a gasglwyd wrth wneud ymchwil mewn dogfennau a sgwrsio â'r tirfeddianwyr.
Mae pob peintiad gwreiddiol yn olew ar bord ac yn mesur 5” x 8”. Maen nhw'n dogfennu'r meini'u hunain, ac weithiau'n cynnwys manylion braf o flodau ac anifeiliaid yn ogystal â lleoliadau'r dirwedd sydd o'u hamgylch, yn aml mewn tywydd a golau dramatig. Mae'r peintiadau'n ffurfio casgliad swynol a deniadol o ddelweddau, ac maen nhw hefyd yn ddogfen ddarluniadol bwysig o fath arwyddocaol o safle nad oes gan CBHC lawer o gofnodion gweledol. Mae llygad yr arlunydd hefyd wedi dal manylion a chyd-destun na fyddai cofnod ffotograffig wedi medru gwneud.
Gan fod y lluniau gwreiddiol yn cael eu harddangos a'u gwerthu o 5 Awst, 2011, mae Mrs Young, yn garedig iawn, wedi caniatáu i'r
Cofnod Henebion Cenedlaethol gopïo'r peintiadau'n ddigidol ar gyfer eu harchif gyhoeddus. Mae gobaith y bydd y peintiadau'n cael eu gwerthu'n un casgliad cyfan, gan ei fod yn ddymunol iawn cynnal cyfanrwydd y math hwn o waith. Ond pe caiff y casgliad ei wasgaru, mae'r CBHC yn hapus i gadw set lawn rithwir o'r peintiadau o leiaf, a'u rhoi ar gael i'r cyhoedd.
Maen Hir Parc-y-Garreg, Pen Cnwc, NPRN: 413137
Maen Hir Cerrig-y-Derwyddion, Eglwyswrw, NPRN: 304049
Harold Stone, Haroldstone, NPRN: 305339
Maen Hir Rhyndaston-Fawr, NPRN: 305325
Maen Hir Llanfair-Nant-y-Gof, NPRN: 305192
Maen Gwyn Hir, NPRN: 275685
Maen Hir Llanfrynach, NPRN: 304109
Rhes o feini, Parc-y-Meirw, NPRN: 285
Maen Hir Parc Hen, NPRN: 305198
Carreg Galchen Fach, Maenclochog, NPRN: 304453
Pâr Carreg Cornel Bach, Maenclochog, NPRN: 304454
Maen Hir Ty Newydd, Mathry, NPRN: 305214
Pâr Carreg Waun Lwyd, Mynachlog Ddu, NPRN: 304054
Maen Hir Trefais, Moelygrove, NPRN: 304089
Maen Hir Pen Parke, Brynawel, NPRN: 413138
Maen Hir Waun Mawn, NPRN: 300423
Pâr Carreg, Tafarn-y-Bwlch, NPRN: 304356
Maen Hir Carreg Coitan Arthur, Puncheston, NPRN: 304361
Maen Hir Fagwr Fran, Puncheston, NPRN: 304362
Maen Hir Maen Dewi, St David’s, NPRN: 305373
Maen Hir Harold, Skomer Island, NPRN: 305372
Subscribe to the Heritage of Wales News and sign up for the
full feed RSS, just click this

RRS button and subscribe!