Archebu Deunydd o'r Archif
Mae Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yn darparu gwasanaeth sy’n ymwneud â threftadaeth archaeolegol ac adeiledig Cymru. Mae modd cael gwybodaeth drwy lenwi’r ffurflen e-bost Ffurflen Gwneud Ymholiad, drwy anfon cais drwy’r post, ffacsio cais, ffonio i gyflwyno cais neu ymweld yn bersonol â’r Llyfrgell a’r Ystafell Chwilio yn Aberystwyth. Peth doeth yw gwneud apwyntiad.Llyfrgell a Gwasanaethau Ymholiadau
CBHC
Adeilad y Goron
Plas Crug
Aberystwyth
Ceredigion SY23 1NJ
Ffôn: +44(0)1970 621200
Ffacs: +44(0)1970 627701
Oriau Agor: Llun, Mawrth, Iau, Gwener, 9.30-4.00; Mercher 10.30-4.30.
Cewch weld y wybodaeth hon yn rhad ac am ddim, ond fe all fod ffi am gyflenwi copïau o ddata a deunydd archifol; Edrychwch ar y rhestr brisiau i gael y manylion. Caiff copïau o’r deunydd eu cyflenwi gan barchu unrhyw gyfyngiad ar hawlfraint neu gyfyngiad ar fynediad iddo. Edrychwch ar ein 'Telerau ac Amodau ar gyfer Defnyddio Gwybodaeth o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru', os gwelwch yn dda. Bwriadwn ateb eich ymholiad cyn pen 15 diwrnod gwaith ar ôl cael y cais. I archebu copïau o gofnodion sydd eisoes i’w gweld ar Coflein, llenwch Ffurflen Archebu a rhowch y rhif catalog, yr NPRN, chyfeirnod y ddelwedd ac am pa ddefnydd y wybodaeth.
Dogfennau
- Y Rhestr Brisiau (ffeil PDF, 0.1MB)
- Ffurflen Archebu 2011 (ffeil PDF, <0.1MB)
- Telerau ac Amodau ar gyfer Defnyddio Gwybodaeth o GHCC 2011 (ffeil PDF, 0.1MB)
Subscribe to the Heritage of Wales News and sign up for the full feed RSS, just click this RRS button and subscribe!
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.