Roman Frontiers in Wales and the Marches |
Ein cyhoeddiad diweddaraf yw’r synthesis mawr cyntaf o safleoedd Rhufeinig milwrol yng Nghymru oddi ar 1969. Mae’r gyfrol newydd hon wedi dyblu nifer y safleoedd sydd wedi’u disgrifio (dros gant ohonynt) ac yn cynnwys yr ymchwil ddiweddaraf i gyd. Mae archaeoleg wedi symud yn ei blaen yn aruthrol dros y deugain mlynedd diwethaf yn sgil datblygu technegau fel arolygu geoffisegol ac mae llu o ddarganfyddiadau wedi’u gwneud, diolch i raglen helaeth o archwilio o’r awyr. Ceir llawer o’r lluniau hynny ym mhob rhan o’r llyfr. Am na chaiff llawer o’r adroddiadau archaeolegol ar ddatblygiadau modern eu cyhoeddi, caiff y ‘llenyddiaeth lwyd’ honno’i hanwybyddu’n aml, ond yn Roman Frontiers ceir llawer iawn iawn o wybodaeth o’r ffynonellau go anghyfarwydd hynny. Bellach, hefyd, mae llawer gwell dealltwriaeth o Ffyrdd Rhufeinig Cymru nag a oedd ym 1969, a rhan bwysig o’r llyfr yw mapiau a disgrifiadau newydd o’r rhwydwaith o ffyrdd ynghyd ag awyrluniau o lu o ddarganfyddiadau newydd. Am fod ynddo dros 270 o luniau, y llyfryddiaeth ddiweddaraf ac adrannau thematig sydd wedi’u llunio gan arbenigwyr, bydd y gwaith hwn yn gaffaeliad hanfodol i haneswyr ac archaeolegwyr am y deugain mlynedd nesaf.
Roman Frontiers in Wales and the Marches
Our latest publication is the first major synthesis of Roman military sites in Wales since 1969. This new volume has doubled the number of sites described (over a hundred) and incorporates all of the latest research. Archaeology has advanced greatly in the last forty years with the development of such techniques as Geophysical survey and many discoveries have come about thanks to an extensive programme of aerial reconnaissance, many images of these can be found throughout the book. A lot of archaeological reports undertaken for modern developments don’t get published and this ‘grey literature’ is often overlooked, but Roman Frontiers has included vast amounts of materials from these little known sources. The Roman Roads of Wales are also much better understood now than they were in 1969 and new maps and descriptions of the road network form an important part of the book, along with new aerial images of many new findings. With over 270 illustrations, an extensive and up to date bibliography and thematic sections written by experts in their field this work will be essential to both historians and archaeologists for the next forty years.
Subscribe to the Heritage of Wales News and sign up for the full feed RSS, just click this RRS button and subscribe!
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.