Adeiladau: rhai dulliau cofnodi, dadansoddi, diogelu, ailddefnyddio a chyflwyno
Sefydliad Owain Glyndŵr, Machynlleth, NPRN: 32041 |
Ar Ddydd Gwener, 18 Mai, 2012, bydd Susan Fielding, ymchwilydd adeiladau’r Comisiwn Brenhinol, yn rhoi sgwrs yn Ysgol Undydd y Gwanwyn IFA Cymru a gynhelir yn Sefydliad Owain Glyndŵr, Machynlleth.
Bydd y diwrnod yn dechrau am 10.15am ac yn gorffen am 4.15pm ac am 2.15pm bydd Susan yn rhoi sgwrs ar “Ymagwedd CBHC at Arolygu Adeiladau”. Rhai o’r siaradwyr eraill ar y diwrnod fydd Rod Bale (Y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan): “Dyddio drwy flwyddgylchau ac adeiladau hanesyddol yng Nghymru”; Margaret Dunn (Cyfarwyddwr Prosiect Dendrocronoleg Gogledd-Orllewin Cymru): “Hynt a helynt gweithio gyda gwirfoddolwyr”; a Liz Green (Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol): “Defnyddio data cofnodi adeiladau manwl wrth ddiogelu adeiladau hanesyddol”.
I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu’ch lle, cysylltwch â John Lathan, jernstlatham@qmail.com, 07774 877834 neu Ian Brooks eas@tdlmail.co.uk
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.