Castell y Gelli o’r dref |
Hefyd, bydd y Comisiwn Brenhinol yn trefnu arddangosfa yng Nghastell y Gelli, gan fanteisio ar adnoddau Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Bydd yr arddangosfa ym Mhorthdy’r Castell (siop y Nepal Bazaar gynt) am gyfnod yr Ŵyl. Daeth Castell y Gelli yn eiddo i Ymddiriedolaeth Castell y Gelli yn 2011. Elusen yw’r Ymddiriedolaeth a ffurfiwyd i ddiogelu’r adeilad rhestredig Gradd I hwn ac i sefydlu canolfan ddiwylliannol newydd. Mae’r Comisiwn yn rhoi cyngor ar ddehongli Tŷ’r Castell, y plasty tri llawr a adeiladwyd ochr yn ochr â’r gorthwr castell o’r ddeuddegfed ganrif. Y gred oedd bod Tŷ’r Castell yn dŷ o gyfnod yr Adferiad a rhoddwyd dyddiad o 1660 iddo. Ond ar ôl edrych o’r newydd ar y manylion pensaernïol credir bellach iddo gael ei godi cyn y Rhyfel Cartref, yn ystod teyrnasiad Siarl I o bosibl. Yn gynharach eleni cymerwyd samplau o’r coed gwreiddiol a oedd wedi goroesi ar ôl dau dân yn yr ugeinfed ganrif i ddadansoddi’r blwyddgylchau a darganfod eu hoedran. Gobeithir y bydd y canlyniadau ar gael mewn pryd ar gyfer Gŵyl y Gelli pan fydd Richard Suggett, ar 5 Mehefin, yn arwain teithiau anffurfiol drwy’r Castell am 12 a 2pm.
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.