Croeso i’r llu o aelodau newydd sydd wedi ymuno â rhwydwaith y Cyfeillion. Gobeithiaf y bydd y Newyddlen hon yn rhoi blas i chi o’r hyn yr ydym yn ei wneud a sut y gallwn eich helpu i ddatblygu eich gwybodaeth o amgylchedd hanesyddol Cymru, pa un a oes gennych chi ddiddordeb proffesiynol neu amatur. Fel un o’n Noddwyr, dywed Huw Edwards, “Yn bendant iawn, dyfodol Cymru, yn ogystal â’i gorffennol, yw maes y Comisiwn Brenhinol”
Mae treftadaeth Cymru yn faes a all beri penbleth i’r lleygwr. Nid yw’n glir bob amser pwy sy’n gwneud beth a phwy y dylid cysylltu â hwy – Cadw, yr Ymddiriedolaethau Archaeolegol, y Comisiwn Brenhinol neu’r cymdeithasau amwynderau. Wel, yn syml, y Comisiwn Brenhinol yw’r archif cenedlaethol ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru. Ceir yn y casgliad dwy filiwn o ffotograffau a 125,000 o luniadau, sy’n ei wneud yn archif gweledol mwyaf Cymru, yn ogystal â miliynau o dudalennau o destun.
Ond nid archif yn unig mohono. Mae cysylltiad agos rhwng ein gwaith archifol a’n gweithgareddau ymchwilio ac estyn allan parhaus. Mae ein hymchwiliadau thematig yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o hanes Cymru. Mae ein defnyddwyr yn gallu manteisio’n gyflymach fyth ar ganlyniadau’r gwaith hwn, ynghyd â chynnwys yr archif, drwy ein cyhoeddiadau traddodiadol uchel eu safon sydd wedi ennill cymaint o barch a chlod yn rhyngwladol, ac ar-lein drwy Coflein, Casgliad y Werin Cymru, a gwefannau eraill. Mae’r Comisiwn yn arweinydd ym maes datblygiadau digidol arloesol yn y sector treftadaeth Gymreig a thu hwnt, ac unwaith eto cafodd pob lle yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2012 ei gymryd. Ar lefel fwy lleol, mae ein harchaeolegwyr cymunedol (wedi’u hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a rhaglen Interreg yr UE) yn gweithio gyda chymunedau ac unigolion mewn ardaloedd mor amrywiol ag Amlwch, gogledd Ceredigion, Blaenau Gwent, a Chaerdydd.
Does dim rhyfedd, felly, i mi gael fy mhlesio’n fawr, ond nid fy synnu, pan ddaeth Adolygiad Llywodraethu Llywodraeth Cymru i’r casgliad dwy flynedd yn ôl fod y Comisiwn Brenhinol yn “sefydliad uchel ei barch, sy’n cynnwys staff tra chymwys a chanddynt brofiad ac ymroddiad ac arbenigwyr cydnabyddedig yn Gomisiynwyr”, gan nodi “a thrwy gydol yr adolygiad yr oedd maint y gwaith a wnâi’r sefydliad ar y gyllideb hon yn syndod”.
Fel ein defnyddwyr tymor-hir presennol, gobeithiaf y bydd ein Cyfeillion newydd yn dod i’r un casgliad. Rhowch wybod i’ch ffrindiau a’ch cydnabod am fanteision ymuno â’r rhwydwaith hwn, a helpwch ni i’ch helpu chi i ddarganfod rhagor am eich gorffennol eich hun.
Eurwyn Wiliam
Cadeirydd
- Newyddlen y Cyfeillion (ffeil PDF, 1.6MB)
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.