Awyrlun, a dynnwyd gan Aerofilms ym 1929, o Ddociau Caerdydd. Dyma safle Canolfan Mileniwm Cymru a Senedd y Cynulliad Cenedlaethol erbyn hyn. Aerial view of Cardiff Docks taken by Aerofilms in 1929. The site is now occupied by the Wales Millennium Centre and the Senedd of the National Assembly for Wales. D12006_0742 NPRN: 91412 |
Caiff un o’r casgliadau cynharaf a phwysicaf o awyrluniau arosgo o’r Deyrnas Unedig fod yn destun gwaith cadwraeth cyn i’r lluniau gael eu digido a’u gwneud yn hygyrch i’r cyhoedd, diolch i grant gan Gronfa Treftadaeth y Loteri o £1,755,722.
Bydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ynghyd ag English Heritage a Chomisiwn Brenhinol Henebion yr Alban, yn defnyddio’r arian i gyflawni rhaglen gadwraeth pedair-blynedd ar y ffotograffau hynaf a mwyaf gwerthfawr yng Nghasgliad Aerofilms. Yna, trefnir i’r delweddau hynny fod ar gael ar-lein yn rhad ac am ddim.
Prynwyd Casgliad Aerofilms i’r genedl yn 2007, ac mae’r filiwn a rhagor o ffotograffau ynddo’n dyddio o 1919 tan 2006 ac yn rhoi darlun digymar o’r newidiadau yng ngolwg Prydain yn ystod yr ugeinfed ganrif.
Bydd y rhaglen pedair-blynedd yn cychwyn yn 2011 ac yn gofyn i’r cyhoedd rannu eu hatgofion a’u gwybodaeth am gynnwys y delweddau. Gwneir gwaith cadwraeth ar y negyddion bregus a chânt eu sganio i fformat digidol. Caiff gwefan newydd, Prydain o'r Awyr, ei lansio ddiwedd 2011. Erbyn 2014, bydd 95,000 o ddelweddau a dynnwyd rhwng 1919 a 1953 i’w gweld ar-lein.
Meddai Hilary Malaws, Pennaeth Cangen Rheoli Gwybodaeth CBHC, “Bydd grant Cronfa Treftadaeth y Loteri yn sicrhau bod y cyhoedd yn gallu gweld y casgliad hynod hwn, a bydd cyfle iddyn nhw rannu eu hatgofion a’u gwybodaeth gyda phobl eraill.”
Dewch i weld rhai o ddelweddau hynod ddifyr Aerofilms ...
Prydain o’r Awyr - Awyrluniau Prin a Bregus o Gasgliad Aerofilms Wedi’u Diogelu
25/06/2012 Mae’r wefan www.britainfromabove.org.uk/cy ar gael i’w defnyddio am ddim yn awr, felly mewngofnodwch i weld beth y gallwch ei ddarganfod.
Atomfa Trawsfynydd. Dechreuwyd ei godi ym 1959 gan ddilyn manylebau pensaeniol Syr Basil Spence. Dechreuodd gynhyrchy trydan ym 1965 ac fe'i datgomisiynwyd ym 1991. Dyma'r atomfa sifil gyntaf ym Mhrydain i beidio â bod ar lan y môr, a defnyddid dŵr croyw o lyn Trawsfynydd i'w hoeri. Saif yr atomfa ar diroedd helaeth y cynlluniwyd eu tirlunio gan Sylvia Crowe. Trawsfynyndd Nuclear Power Station. Construction commenced in 1959 to architectural specifications by Basil Spence. It started service in 1965 and was commissioned in 1991. the first inland civil nuclear power station in the UK, it used fresh water for cooling drawn from Trawsfynydd lake. the power station is set within extensive landscaped grounds designed by Sylvia Crowe. afl03_aerofilms_a177854 NPRN: 301092 |
Aerofilms Collection
One of the earliest and most significant collections of oblique aerial photography of the United Kingdom is to be conserved, digitised and made publicly accessible thanks to a Heritage Lottery Fund (HLF) grant of £1,755,722.
Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales, along with English Heritage and the Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Scotland, will use the funding to undertake a four-year conservation programme on the oldest and most valuable photographs in the Aerofilms Collection and make these images available freely online.Acquired for the nation in 2007, the Aerofilms Collection of over 1 million photographs dates from 1919 to 2006 and presents an unparalleled picture of the changing face of Britain in the twentieth century.
The four-year programme starts in 2011 and will involve the general public in sharing memories and information related to the images. Fragile negatives will be conserved and scanned into digital format, and a new website, Britain from Above, will be launched at the end of 2011. By 2014, 95,000 images taken between 1919 and 1953 will be available to view online.
Hilary Malaws, RCAHMW Information Management Branch Head, said “The HLF grant will ensure that this remarkable collection will be accessible to the public and give them an opportunity to share their memories and knowledge with others.”
View some of these fascinating Aerofilms images ...
Britain From Above - Rare and Fragile Aerial Photos from Aerofims Collection Conserved
25/06/12 The website www.britainfromabove.org.uk is free and available to use now, so log in and see what you can discover.
Subscribe to the Heritage of Wales News and sign up for the full feed RSS, just click this RRS button and subscribe!
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.