Posts Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts      All Comments Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts     Cymraeg

Wednesday 21 March 2012

Ysgol Ddydd Archaeoleg Ceredigion





Manylion cranc a gêr y drwm weindio ar yr olwyn ddŵr ym Mwynglawdd Ystrad Einion, NPRN:-33908
Dydd Sadwrn 24 Mawrth 2012 yng Nghanolfan Morlan,
Aberystwyth 10.30 a.m. - 4.30 p.m

Bydd dau o archaeolegwyr blaenllaw’r Comisiwn, Dr Toby Driver a Louise Barker, yn cefnogi Ysgol Ddydd Archaeoleg Ceredigion yn Aberystwyth ar 24ain Mawrth. Trefnir y digwyddiad gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ac fe fydd yn ddiwrnod o gyflwyniadau, arddangosfeydd a thrafodaethau ar ganlyniadau ymchwil ac ymchwiliadau archaeolegol diweddar yng Ngheredigion.  Bydd Louise Barker yn sôn am arolygu mwynglawdd copr Ystrad Einon a chreu animeiddiad 3D ohono, a bydd Dr Toby Driver yn sgwrsio am y gwaith cloddio yn fila Rufeinig Abermagwr fis Gorffennaf diwethaf. Bydd ein dau archaeolegydd cymunedol o’r Prosiect Cysylltiadau Metel yno hefyd i gynnal arddangosfa a sôn am eu gwaith.

£3 sy’n cynnwys te, coffi a bisgedi. Archebwch yn gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi.
Cysylltwch â : Menna Bell, Archaeolegydd Cymunedol Ffôn 01558 825997 m.bell@dyfedarchaeology.org.uk


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin

Related Posts with Thumbnails