Posts Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts      All Comments Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts     Cymraeg

Monday 6 February 2012

Olrhain Hanes Pontypridd






Golwg o Hen Bont Pontypridd a dynnwyd ym 1975.
O Gasgliadau Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru: Hawlfraint y Goron: Swyddfa Hysbysrwydd Ganolog

Mae Pontypridd wedi'i lleoli ar gymer afonydd Taf a Rhondda, ac yn borth cymoedd Caerdydd. Cafodd ei disgrifio gan yr awdur a nofelydd Gwyn Thomas yn 'Damascus y Cymoedd'. Mae'r dref yn enwog nid yn unig fel man geni Tom Jones ac anthem genedlaethol Cymru Hen Wlad fy Nhadau, ond hefyd am ei phont un bwa (o le daw ei henw) a Gweithfeydd Cadwyni Brown Lennox a gynhyrchodd angorau agerlongau mawr Brunel.

Mae tirnod hynaf Pontypridd yn cael ei adnabod yn lleol fel 'yr Hen Bont'. Fe'i hadeiladwyd ynghanol y ddeunawfed ganrif gan William Edwards, ei bedwerydd ymgais i adeiladu pont droed un bwa dros Afon Taf. Yr Hen Bont oedd pont un bwa hiraf Prydain – 140 troedfedd – pan agorodd ym 1756 a pharhaodd yr hiraf tan y 1790au. Costiodd y fenter £1,150 i William Edwards ( £195,544 yn arian heddiw). Mae ei chynllun yn nodedig oherwydd y tri thwll silindrog o wahanol feintiau ar y naill ochr, ac mae hi wedi bod yn ddelwedd ganolog yn hunaniaeth y dref erioed.

Hen Bont Pontypridd, Coflein:

Casgliad y Werin Cymru -
Straeon Cymunedol

BBC One Wales - Trefi Cymru


Subscribe to the Heritage of Wales News and sign up for the full feed RSS, just click this Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts RRS button and subscribe!

Also find us on: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin

Related Posts with Thumbnails