Posts Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts      All Comments Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts     Cymraeg

Thursday 9 February 2012

Mwynglawdd Ystrad Einion, Ceredigion





Golwg wedi’i adlunio yn dangos y mwynglawdd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
NPRN 33908, DI2012_0017 Hawlfraint y Goron CBHC

Mae animeiddiad diweddaraf y Comisiwn Brenhinol yn rhoi bywyd newydd i olion diwydiannol mwynglawdd metel Ystrad Einion sy’n dyddio’n ôl i ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mwynglawdd plwm-arian, sinc a chopr Ystrad Einion, sydd wedi’i leoli yng nghanol Cwm Einion (Artists Valley), yw un o’r mwyngloddiau mwyaf gogleddol yng Ngheredigion. Cafodd yr animeiddiad gyda throslais, sy’n ail-greu hanes a phrosesau’r mwynglawdd, ei ariannu drwy brosiect PLWM Cyngor Sir Ceredigion a gwnaed yr ymchwil gan y Comisiwn Brenhinol ac Ymddiriedolaeth Cadwraeth Mwynfeydd Cymru. Cafodd ei gynhyrchu gan ay-pe Ltd.


Cewch weld yr animeiddiad yma: Ystrad Einion

Y mwynglawdd heddiw.
NPRN 33908, DS2011_075_002
Hawlfraint y Goron CBHC

Ystrad Einion, Coflein:
Coflein - Darganfod Ein Gorffennol Ar-Lein
Coflein yw cronfa ddata ar-lein Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC), y casgliad cenedlaethol o wybodaeth am amgylchedd hanesyddol Cymru.


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin

Related Posts with Thumbnails