Posts Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts      All Comments Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts     Cymraeg

Wednesday 23 November 2011

Cyfeillion y Comisiwn Brenhinol





Ymuno â Chyfeillion y Comisiwn Brenhinol


Mae gan y Comisiwn Brenhinol lu o gyfeillion a phobl sy’n dymuno’n dda iddo.  Bob blwyddyn, bydd dros 10,000 o bobl yn mwynhau’n harddangosfeydd a chawn amryw byd o ymholiadau a llu o ymwelwyr â’n llyfrgell a’n hystafell chwilio.  Yn aml, bydd ymholiad syml yn esgor ar gyswllt gydol oes â’r Comisiwn.  Mae’r tair cyfres o Hidden Histories wedi dod â llu o ddefnyddwyr newydd aton ni’n ddiweddar.  Bydd dros 100,000 o bobl yn ymweld â’n cronfa ddata ar-lein Coflein bob blwyddyn.

Bellach, crisialwyd rhwydwaith anffurfiol o gyfeillion yn drefniant mwy ffurfiol o Gyfeillion.  Mae ymuno â Chyfeillion y Comisiwn Brenhinol yn syml ac yn rhad ac am ddim a chewch chi amryw byd o fanteision.  Cofrestrwch eich manylion gyda ni i ymaelodi â’n rhwydwaith o Gyfeillion.  Ymhlith y llu manteision a gewch chi o ymaelodi bydd cael newyddlenni rheolaidd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein holl brosiectau a derbyniadau cyfredol, disgowntiau ar bob un o’n cyhoeddiadau, a fforwm blynyddol i Gyfeillion yn unig a fydd yn cynnwys siaradwyr nodedig, ynghyd â chyfleoedd i wirfoddoli yn y Comisiwn.  I ymuno â ni, cliciwch ar y cyswllt isod a chofrestrwch eich manylion heddiw!

Ymuno â Chyfeillion y Comisiwn Brenhinol

Subscribe to the Heritage of Wales News and sign up for the full feed RSS, just click this Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts RRS button and subscribe!

Also find us on: Facebook Twitter Flickr
Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin

Related Posts with Thumbnails