Cyhoeddiad Newydd!
Mynydd Hiraethog: The Denbigh Moors |
Gan Robert J. Silvester, Louise Barker, David Leighton, 2011.Cyhoeddwyd gan y Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Ebrill 2011
ISBN: 978-1-871184-40-2
Pris: £9.99
Cludiant: £0.00
Prynu Mynydd Hiraethog: The Denbigh Moors
Adolygiad o Cynnwys
Mynydd Hiraethog: The Denbigh Moors gan Robert J. Silvester gyda chyfraniadau gan Louise Barker a David Leighton, cyhoeddwyd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, 2011, llyfr dwyieithog â chlawr papur, 88 tudalen, xx llun, ISBN 978-1-871184-40-2
Tirweddau ucheldiroedd Cymru yw nodwedd amlycaf y wlad ac yno cewch chi drysorfa anferth o olion archaeolegol a threftadaeth ein gwlad. Oherwydd y dystiolaeth eithriadol sydd yno o fywydau pobl ar draws miloedd o flynyddoedd, maent o bwys rhyngwladol. Yn y llyfr hwn fe adroddir hanes can milltir sgwâr Mynydd Hiraethog. Gan i bobl gyfanheddu neu ddefnyddio’r bryniau hyn dros filoedd ar filoedd o flynyddoedd, mae olion eu gweithgareddau i’w gweld yn y dirwedd hyd heddiw. Cewch ddisgrifiad o’r gweithgareddau hynny yng ngoleuni’r darganfyddiadau diweddar. Adroddir hanes to ar ôl to o werin bobl mewn amgylchedd a fodlonai lu o’u hanghenion ond a allai, ar adegau, fod yn arw ac yn her.
CYNNWYS
Rhagair
Rhagymadrodd
Tirwedd Hiraethog
Astudio Hiraethog
Hanes Hiraethog
Claddedigaethau a Defodau Cynhanesyddol
Anheddu ac Amaethu Cynhanesyddol
Anheddu ac Amaethu yn y Cyfnod Hanesyddol
Cyfoeth y Gweundir
Llwybrau a Ffyrdd
Yr Ystadau Mawrion
Yr Ugeinfed Ganrif
Safleoedd i Ymweld â Hwy
Teithiau Cerdded
Cael gwybod rhagor
Cyfeiriadau a dallen pellach
Cyhoeddiadau Cysylltiadau Perthnasol:
Archebwch eich copi o Mynydd Hiraethog: The Denbigh Moors
Gwerthu Llyfrau
Subscribe to the Heritage of Wales News and sign up for the full feed RSS, just click this RRS button and subscribe!
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.