Cyflog: £20,100 y flwyddyn.
Lleoliad: Aberystwyth
Hyd y cytundeb: 10 mis
Cysylltwch ag: Angharad Williams
Disgrifiad o'r Swydd:
Y Tîm Ymgysylltu â’r Cyhoedd sy’n gyfrifol am hyrwyddo daliadau ac adnoddau’r Comisiwn Brenhinol a sicrhau bod y Comisiwn yn darparu cyhoeddiadau a gwybodaeth hygyrch ac awdurdodol mewn cyfryngau priodol sy’n hybu dealltwriaeth o amgylchedd hanesyddol Cymru.
Gwefan sy’n adrodd hanes Cymru a’i phobl yw Casgliad y Werin Cymru. Mae’n brofiad ar-lein dynamig a dwyieithog sy’n gyforiog o luniau, recordiadau sain, dogfennau, fideos a straeon eithriadol o ddiddorol am hanes a threftadaeth Cymru a’i phobl. Noddir y prosiect gan Lywodraeth Cymru.
Bydd deiliad y swydd yn chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu llinyn dysgu prosiect Casgliad y Werin Cymru a sicrhau bod y Comisiwn yn cyflawni ei amcanion strategol ymarferol drwy gynorthwyo swyddogaeth estyn-allan y Comisiwn, gan gynnwys dysgu yn y swyddfa ac mewn digwyddiadau allanol. Bydd deiliad y swydd yn cyflawni amryw o weithgareddau a mentrau y cynllunnir iddynt ymgysylltu â’r gymuned dysgu, yn cynyddu ymwybyddiaeth o ddaliadau ac adnoddau’r Comisiwn ac yn trefnu iddynt fod ar gael ac yn hygyrch.
Bydd deiliad y swydd hefyd yn gyfrifol am fonitro’r cynnydd o ran gweithredu Cynllun Iaith Gymraeg y Comisiwn.
I gael holl fanylion y swydd hon, ewch i: Swyddi sy'n Wag ar hyn o bryd
Y dyddiad cau i geisiadau: 14/05/2012.
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn
Rydym hefyd ar gael ar:
Twitter Hashtag: #RCAHMWales