Corff a sefydlwyd ym 1908 yw
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac mae ganddo Warant Frenhinol. Ar hyn o bryd, mae’n Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru ac yn rhan o bortffolio’r Gweinidog dros Dreftadaeth. O dan ei Warant Frenhinol fe’i cyfarwyddir i ‘ddarparu ar gyfer arolygu a chofnodi henebion ac adeiladweithiau hanesyddol o’r cyfnod cynharaf (gan gynnwys yr henebion a’r adeiladweithiau yng ngwely’r môr, arno neu oddi tano o fewn moroedd tiriogaethol y Deyrnas Unedig ger Cymru) trwy gywain, cynnal a churaduro
Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru fel y cofnod cenedlaethol sylfaenol o’r amgylchedd archeolegol a hanesyddol’.
Datganiad Cenhadaeth
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yw’r corff ymchwilio a’r archif cenedlaethol ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru. Ganddo ef y mae’r rôl arweiniol o ran sicrhau y caiff treftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol Cymru ei chofnodi’n awdurdodol, a chais hyrwyddo gwerthfawrogi’r dreftadaeth honno yn y wlad hon ac yn rhyngwladol.
Rôl y Comisiwn Brenhinol
Craidd swyddogaethau gwreiddiol a pharhaus y Comisiwn Brenhinol yw ymchwilio i’r amgylchedd hanesyddol, ei ddeall, ei ddehongli a lledaenu gwybodaeth awdurdodol amdano, gofalu am ei gofnodion ei hun a chofnodion cyrff eraill, a’u cynnal a’u cadw. Mae’r archif sy’n deillio o hynny, Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC), yn cynnwys dros 1.5 miliwn o ddelweddau ffotograffig (yr archif ffotograffig mwyaf yng Nghymru), 70,000 o luniadau a thros 50,000 o fapiau cyfredol a hanesyddol yn ogystal â thros 3 miliwn o dudalennau o destun. Mae’n ‘fan adneuo’ o dan Ddeddf Cofnodion Cyhoeddus 1958 ac yn agored i’r cyhoedd yn ddyddiol. Mae
Coflein, ei wasanaeth gwybodaeth ar-lein, yn darparu mynediad i’r casgliadau, i’r catalogau ac i fynegai cenedlaethol o safleoedd. Cydnabyddir y Comisiwn Brenhinol yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol fel y corff swyddogol sy’n arolygu ac yn cofnodi amgylchedd hanesyddol Cymru, ac mae’n ddolen gyswllt â chyrff cysylltiedig eraill yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt.
Darllen yn llawn: Datganiad Strategol 2011-12
Subscribe to the Heritage of Wales News and sign up for the
full feed RSS, just click this

RRS button and subscribe!
Also find us on: