Posts Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts      All Comments Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts     Cymraeg

Monday, 25 June 2012

Prydain o’r Awyr - Awyrluniau Prin a Bregus o Gasgliad Aerofilms Wedi’u Diogelu





Traeth y Gogledd, Aberystwyth ar ddydd Sul poeth ym mis Gorffennaf 1947,
NPRN:33035,   AFL03_R8767


Tynnodd Aerofilms Ltd, cwmni a sefydlwyd ym 1919, fwy nag 1.2 filiwn o awyrluniau o lawer o’r digwyddiadau a lleoedd pwysicaf yn hanes gwledydd Prydain yn yr ugeinfed ganrif. Am y tro cyntaf erioed gellir gweld 15,000 o’r delweddau cynharaf drwy fynd i wefan Britain from Above sy’n mynd yn fyw heddiw.

Roedd casgliad Aerofilms, a gawsai ei grynhoi dros wyth degawd (1919-2006), mewn perygl o gael ei wasgaru ymhlith prynwyr preifat a chael ei golli pan aeth y cwmni i drafferthion ariannol. Cafodd ei achub a’i brynu i’r genedl yn 2007 gan English Heritage, Comisiwn Brenhinol Henebion yr Alban a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Sefydliad Foyle. Yna dechreuwyd ar raglen o ddiogelu rhai o’r negatifau plât gwydr mwyaf prin a bregus a’u digido er mwyn eu rhoi ar-lein i bawb eu cyrchu’n ddi-dâl.

Llun o bont grog eiconig Pont y Borth (Pont Menai) fel yr oedd ym 1920
NPRN: 43063   WPW002042
 Mae’r casgliad yn cofnodi’r newidiadau yn nhirwedd Ynysoedd Prydain a sut yr ydym wedi byw, gweithio a chwarae gyda’n gilydd yn ystod y 80 mlynedd ddiwethaf. Mae’r wefan yn canolbwyntio ar gyfnod cynharach y casgliad rhwng 1919 a 1953 ac mae’n gartref i rai delweddau hynod bwysig. Mae’r rhain yn cynnwys: Traeth y Gogledd, Aberystwyth ym 1947, Parc yr Arfau, Caerdydd ym 1932, Porthaethwy fel yr oedd ym 1920, Eglwys Gadeiriol Tyddewi a’r cyffiniau ym 1929, Harbwr Dinbych-y-pysgod ym 1929, Gwaith Haearn Dowlais y flwyddyn cyn i gynhyrchu ddod i ben, a Dociau Caerdydd ymhell cyn iddynt ddod yn Fae Caerdydd.

Glofa Gresffordd ym mis Hydref 1934, fis ar ôl un o’r trychinebau gwaethaf yn hanes y pyllau glo,
NPRN: 301580   AF67 

Ond mae eisiau eich cymorth arnom ni!

Gyda chasgliad mor ysblennydd a phellgyrhaeddol â hwn, yn ogystal â’ch denu chi i edrych ar yr hyn sydd wedi cael ei gadw a’i ddiogelu, hoffem i chi rannu gyda ni eich atgofion am y lleoliadau a’r safleoedd, tagio delweddau fel eu bod yn haws eu lleoli wrth ddefnyddio peiriannau chwilio, a grwpio ffotograffau gyda’i gilydd i helpu ein grwpiau diddordeb i astudio eu pynciau (boed hwy’n rheilffyrdd, yn eglwysi neu’n safleoedd milwrol), ond, yn anad dim, mae angen eich gwybodaeth leol arnom i helpu’r arbenigwyr i adnabod cannoedd o luniau anhysbys – delweddau heb leoliad, disgrifiad na dyddiad.

Mae’r wefan www.britainfromabove.org.uk ar gael i’w defnyddio am ddim yn awr, felly mewngofnodwch i weld beth y gallwch ei ddarganfod.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin

Related Posts with Thumbnails