Posts Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts      All Comments Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts     Cymraeg

Tuesday 6 December 2011

Oes Gennych Chi Ddiddordeb Yn Archaeoleg Mynyddoedd Cymru?





Mynydd hiraethog, mountain trackway
NPRN 408312     DS2008_238_001


Os oes, efallai yr hoffech chi nodi’r dyddiadau isod yn eich dyddiadur.

Bob blwyddyn, bydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn wneud gwaith arolygu ar draws mynyddoedd a gweundiroedd Cymru fel rhan o’i brosiect ar archaeoleg yr uwchdiroedd. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, felly, mae’r broses o ddod o hyd i aneddiadau, ffermydd, safleoedd defodol, adeiladau a gweithgarwch diwydiannol anghyfannedd wedi cynnig darlun newydd o’r uwchdiroedd. Mae hi’n rhoi cipolwg newydd i ni ar fywydau’n hynafiaid a fu’n defnyddio’r tirweddau hynny am filoedd ar filoedd o flynyddoedd.

Eleni, mae Cysylltiadau Metel, prosiect newydd sy’n cael ei ariannu gan Ewrop, wedi dechrau archwilio tirweddau diwydiannol yr uwchdiroedd yn fanylach. Bydd Cysylltiadau Metel yn hoelio’i sylw ar adrodd hanes yr ardaloedd yng Nghymru ac Iwerddon lle bu cloddio am fwynau metel. Un agwedd ar y rhaglen waith fydd samplu palaeoamgylcheddol i ni geisio deall sut y cafodd y dirwedd ei datblygu a’i hecsbloetio dros amser – o eangderau coediog cynhanes i ddefnydd pobl o’i hadnoddau.

Ar 11eg a 12fed Mai 2012 cynhelir fforwm yng Nghanolfan Richard Edwards yn Ystrad Meurig i gyflwyno ffrwyth yr arolygon hynny. Bydd y digwyddiad deuddydd yn cynnwys cyfres o sgyrsiau a thaith dywys i weld safleoedd a henebion yn eu tirwedd. Bydd rhagor o fanylion, a’r trefniadau archebu, ar gael yn nes at yr amser ac i’w gweld ar wefan y Comisiwn, sef www.cbhc.gov.uk


Subscribe to the Heritage of Wales News and sign up for the full feed RSS, just click this Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts RRS button and subscribe!

Also find us on: Facebook Twitter Flickr
Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin

Related Posts with Thumbnails