 |
Castell Gwydir, Sir Gaernarfon
DS2007_340_012 NPRN 26555 |
Bydd trydedd raglen “
The Story of Wales” yn cael ei dangos heno ar BBC2 am 7pm. Yn dwyn y teitl “England and Wales”, mae’r rhaglen hon yn trafod Cymru yn yr Oesoedd Canol ac yn canolbwyntio ar sut y bu i Harri VII gipio coron Lloegr a sefydlu’r llinach Duduraidd. Mae sawl adeilad pwysig yn cael sylw yn y rhaglen hon, gan gynnwys cartref teuluol y Tuduriaid, Plas Penmynydd ar Ynys Môn, Castell Gwydir, a ailgodwyd gan Meredith ap Ieuan ap Robert ar ôl Rhyfeloedd y Rhosynnod, ac, yn olaf, Mathafarn yn Sir Drefaldwyn, eiddo Dafydd Llwyd ym 1485, lle yr arhosodd Iarll Richmond (y Brenin Harri VII yn ddiweddarach) y noson cyn brwydr Maes Bosworth.
Cysylltau i’r safleoedd sy’n cael sylw yn y 3edd raglen:
I’r rheiny sydd â diddordeb, mae’r Athro Ralph Griffiths yn gosod y cefndir yng nghyhoeddiad canmlwyddiant y Comisiwn Brenhinol,
Trysorau Cudd :
Hidden Histories, yn ei drafodaeth awdurdodol ar yr Oesoedd Canol, a pharheir â’r stori yn y bennod ar “Cymru Fodern Gynnar” gan Richard Suggett. Efallai yr hoffai gwylwyr sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am adeiladau Cymru yn yr Oesoedd Canol a’r cyfnod modern cynnar, gan gynnwys Gwydir, ddarllen
Cartrefi Cefn Gwlad Cymru : Introducing Houses of the Welsh Countryside gan Richard Suggett a Greg Stephenson, pris £14.95, neu £13.50 gyda’r disgownt o 10% sydd ar gael i
Gyfeillion. I gael mwy o wybodaeth, ewch i
siop lyfrau ar-lein y Comisiwn Brenhinol neu ffoniwch 01970 621200.
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn

a
thanysgrifiwch!
Rydym hefyd ar gael ar:

Twitter Hashtag: #RCAHMWales