Posts Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts      All Comments Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts     Cymraeg

Tuesday 2 October 2012

The Story of Wales: The Making of Wales





Tre'r Ceiri hillfort, Sir Gaernarfon,
AP_2007_0226  NPRN 95292

Bydd “The Story of Wales”, cyfres boblogaidd y BBC sy’n cael ei chyflwyno gan Huw Edwards, yn dychwelyd heno. Caiff ei dangos ar BBC2 am 7pm a bydd y rhaglen 1af, “The Making of Wales”, yn edrych ar Gymru yn y cyfnod cynhanesyddol, gan roi sylw i bynciau megis y gladdfa ddynol gynharaf y gwyddom amdani yng Ngorllewin Ewrop yn Ogof Pen-y-fai, y mwynglawdd copr mwyaf yn y byd ar Benygogarth yn Llandudno, y beddrod siambr Neolithig ym Marclodiad y Gawres, a’r fryngaer o’r Oes Haearn yn Nhre’r Ceiri. Bydd yn rhoi sylw hefyd i’r safleoedd Rhufeinig yng Nghaerllion, y cerrig arysgrifedig yn eglwys Sant Illtud, Llanilltud Fawr ac, yn olaf, yr eglwys gadeiriol yn Nhyddewi.

Cysylltau i’r safleoedd sy’n cael sylw yn y rhaglen 1af:
Os bydd gwylwyr yn dymuno dysgu mwy am hanes Cymru, efallai y bydd ganddynt ddiddordeb yng nghyhoeddiad canmlwyddiant y Comisiwn Brenhinol, Trysorau Cudd, sydd hefyd ar gael yn y Saesneg o dan y teitl Hidden Histories. Ceir rhagair gan Huw Edwards yn y llyfr. Mae ar gael gan y Comisiwn Brenhinol am £19.95 yn unig gan gynnwys cludiant yn y DU a gall Cyfeillion hawlio disgownt o 10%. Mae gan y cyhoeddiad gwych hwn draethodau sy’n ymdrin â’r rhan fwyaf o’r pynciau yn y gyfres, ynghyd ag astudiaethau achos â chyfoeth o luniau a llyfryddiaeth lawn ar gyfer darllen pellach. Mae rhan gyntaf y llyfr yn cynnwys adrannau ar Gynhanes, Cymru’r Oes Haearn a Chymru Rufeinig, a Chymru’r Oesoedd Canol Cynnar. Yn ogystal, mae’n siŵr y bydd gwylwyr sydd â diddordeb yng Nghymru Rufeinig yn cael eu cyfareddu gan gyhoeddiad cynhwysfawr y Comisiwn Brenhinol, Roman Frontiers in Wales and the Marches, sydd ar gael drwy ein siop lyfrau, eto gyda disgownt arbennig o 10% i Gyfeillion. I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan y Comisiwn Brenhinol neu ffoniwch 01970 621200.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin

Related Posts with Thumbnails