![]() |
Beili Bedw, St Harmon, Radnorshire: a Deserted Rural Settlement showing in low winter sunlight. Beili Bedw, St Harmon, Sir Faesyfed: Anheddiad Gwledig Anghyfannedd yng ngolau haul y gaeaf. |
Mae henebion yn yr uwchdiroedd wedi ysbrydoli hynafiaethwyr ac archaeolegwyr ers cyfnod y Tuduriaid, ond ar y cyfan fe’u hastudiwyd ar eu pennau eu hunain neu fel cynrychiolwyr dosbarthiadau o safleoedd o gyfnod arbennig, megis bryngaerydd Oes yr Haearn. Dim ond yn ddiweddar y dechreuwyd rhoi olion diwylliannol yr uwchdiroedd yn eu cyd-destun ehangach fel rhan o dirweddau sydd wedi esblygu dros gyfnod o amser. Gwnaeth Cynllun yr Uwchdiroedd gyfraniad pwysig at hyn, drwy ddewis rhannau penodol o’r dirwedd a’u chwilio’n systematig. Darganfuwyd nifer syfrdanol o safleoedd archaeolegol newydd o ganlyniad. Mewn rhai ardaloedd, daethpwyd o hyd i un ar ddeg gwaith yn fwy o safleoedd hysbys. Yn dra annisgwyl, darganfuwyd olion llawer iawn o systemau caeau cynnar ac aneddiadau canoloesol ac ôlganoloesol tymhorol ar gryn uchder.
Reconstructing Landscapes

Ysgir Fawr, Mynydd Epynt, Brecknock:
post-medieval longhouses and fields by an uplands watercourse.
Ysgir Fawr, Mynydd Epynt, Brycheiniog:
tai hir a chaeau ôlganoloesol ger cwrs dŵr heldirol.
Related Links:Menter Archaeoleg yr Uwchdiroedd
0 comments:
Post a Comment
www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.